Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Gorffennaf 2017
Amser: 08.30 -
08.56
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru Will Whiteley, Llywodraeth Cymru Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd |
Roedd William Whiteley, swyddog o Lywodraeth Cymru, hefyd yn bresennol.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Hysbysodd Jane Hutt y Pwyllgor fod tri datganiad wedi cael eu hychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw:
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Adroddiad interim yr adolygiad seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol (45 munud)
- Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Strategaeth y Gymraeg (45 munud)
- Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De (30 munud)
· Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai pob pleidlais mewn cysylltiad â Bil yr Undebau Llafur (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.
· Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl o 10 munud cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.
Dydd Mercher
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 27 Medi 2017 –
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ar y trywydd iawn? Masnachfraint y Rheilffyrdd a Metro De Cymru (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ymchwiliad i ddyfodol polisi rhanbarthol - beth nesaf i Gymru? (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w ystyried, a nodwyd y byddai'r Memorandwm yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Hydref 2017.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i dynnu sylw at y ffaith bod Biliau'n cyd-daro ar ddau achlysur gwahanol ac i ofyn barn am allu'r Pwyllgor i reoli'r gwaith o graffu ar Filiau;
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ofyn a fyddai gan y Pwyllgor y gallu i ystyried unrhyw ddeddfwriaeth dros y cyfnod, o ystyried ei lwyth gwaith ar adael yr UE;
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cyfeirio Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at bwyllgor pwnc yng Nghyfnod 1 ac yn ôl i'r un pwyllgor yn ystod Cyfnod 2;
· Nododd y Rheolwyr Busnes y Biliau y bwriadwyd eu cyflwyno yn ddiweddarach y Cynulliad hwn.
Nododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen arfaethedig, a chytunodd i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid fel sy'n ofynnol gan y Rheolau Sefydlog, ac ystyried y mater eto yn ei gyfarfod cyntaf ym mis Medi.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gynnal cyfarfod ychwanegol ddydd Mawrth 18 Gorffennaf 2017.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor y dylai Rheolau Sefydlog gael eu diwygio fel bod:
· rhaid i'r Llywydd wneud datganiad cyn pob Cyfnod 4 yn nodi a yw Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig ai peidio, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf;
· pleidlais yn cael ei chofnodi ym mhob Cyfnod 4, fel ei bod bob amser yn eglur faint o Aelodau sydd wedi pleidleisio o blaid pasio Bil;
· y Cyfnod Ailystyried yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ailystyried Bil sydd wedi cael ei gyfeirio yn ôl i'r Cynulliad gan y Goruchaf Lys oherwydd mater uwch-fwyafrif, ac fel bod modd cyflwyno gwelliannau i Fil yn y cyfnod hwnnw.
Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn dod â newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog gerbron yn seiliedig ar gasgliadau'r Rheolwyr Busnes.
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod toriad yr haf fel y'u nodir ym mharagraff 2 o'r papur ac yn yr atodlen a'r nodyn drafft i'r Aelodau sydd ynghlwm, a chytunwyd ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad, fel y'u nodir ym mharagraffau 3 i 7 o'r papur ac yn y nodyn drafft i'r Aelodau.
Gofynnodd y Clerc i'r Pwyllgor nodi y bydd yr un trefniadau, yn ogystal â bod yn gymwys i'r Swyddfa Gyflwyno, hefyd yn gymwys i'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd ar hyn o bryd yng Nghyfnod 2 â'r Swyddfa Gyflwyno yn ailagor yn ystod wythnos olaf y toriad.
Nododd y Rheolwyr Busnes y newidiadau.
Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)
Hysbysodd Jane Hutt y Rheolwyr Busnes y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y Bil yn ofalus i benderfynu pa ddarpariaethau y mae angen cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad ar eu cyfer.
Cwestiynau amserol hwyr
Yn dilyn achosion yn ddiweddar pan fu raid i'r Llywydd wrthod ceisiadau gan Aelodau yn ymwneud â chyhoeddiadau a wnaed ar ôl 10.00 y bore hwnnw (oherwydd nad oeddent yn bodloni'r terfyn amser o 10.00 ond y byddent yn amlwg wedi cyrraedd y trothwy o fod yn amserol fel arall), cytunodd y Rheolwyr Busnes i addasu'r canllawiau ar unwaith a chaniatáu ar gyfer y posibilrwydd o dderbyn cwestiynau amserol hwyr mewn amgylchiadau eithriadol. Byddai'r agwedd hon hefyd yn rhan o'r broses fwy cyffredinol o adolygu cwestiynau yn nhymor yr hydref.